Select Welsh VersionSelect English VersionTel : 01834 862888 Facs : 01834 862889 Ebost: paulthomas@landskercare.co.uk

A residential care home

cartrefi preswyl

Cred Gofal Plant Lansker fod plant a phobl ifanc sydd ag anghenion gofal breswyl yn haeddu cael gofal a chymorth tebyg i unrhyw blentyn arall ac efallai yn fwy na hwy. Maent yn haeddu cael eu haddysgu a chael profiadau a chyfleoedd. Maent yn haeddu cael eu gwerthfawrogi a’i gwarchod. Maent yn haeddu mwynhau eu plentyndod...

Ar hyn o bryd rydym yn rhedeg pump gartref breswyl cofrestredig, cymysg i blant ar draws Sir Benfro, yng Ngorllewin Cymru. Maent yng nghartrefi tri a phedwar ystafell wely wedi eu lleoli mewn ardaloedd gwledig, yn cynnig cyfanswm o tri ar ddeg lle. Maent oll wedi derbyn adroddiad perffaith oddi wrth Arolygiaeth Safonau Gofal Cymru sy’n adlewyrchu’r ymroddiad a’r ymrwymiad a ddangoswyd gennym tuag at bob plentyn yn ein gofal.

mwy am gartrefi preswyl »

A hand reaching out

cymorth gwaith allanol

Mae angen arweiniad a chynnal hefyd ar blant a phobl ifanc y tu allan i ofal breswyl. Pe bai lleoliad maeth mewn trafferth neu mewn peryg o chwalu neu pe bai person ifanc yn byw ar ei ben ei hun am y tro cyntaf, credwn fod gennym y sgiliau a’r profiad i sicrhau fod y lleoliad yn un lwyddiannus. Cyniga cymorth gwaith allanol becyn hyblyg ac unigol o’r safon uchaf, wedi ei seilio ar y person ifanc. Llewyrcha hyn anghenion sbesiffig y lleoliad, gan ymgorffori hamdden ac arweiniad canolbwyntiedig. Mae’r gwasanaeth hwn yn darparu atebion real i broblemau real.

mwy ar gymorth gwaith allanol »

A calculator and pencil

addysg

Datgan adroddiad y Cynulliad Gymraeg ar blant mewn gofal o’r enw ’Pynciau Craidd i’w Hystyried’; ‘Erys profiadau addysgol i blant mewn gofal yn fratiog’. Rydym ni yn eithriad i’r datganiad hwn.

Ystyria Gofal Plant Lansker bod addysg yn rhan sylfaenol o fywyd plant. Rydym yn ysgol gofrestredig, annibynnol gyda statws cymeradwy AAA:Yr ail ysgol yn unig yng Nghymru i gyflawni hyn.

Ymdrecha ein staff ymroddgar gyflawni potential llawn pob un o’r bobl ifanc a ddysgant heb hidio dim am eu gallu. Mae ein dosbarthiadau yn llawn adnoddau modern ac addysgwn gwricwlwm eang i’r plant am 6 awr y dydd, 5 diwrnod o’r wythnos.

mwy am addysg »