education
Mae Gofal Plant Lansker yn falch iawn o’i system addysg. Rydym wedi ein sefydlu ein hunain fel ysgol annibynnol hollol gofrestredig yn arbenigo mewn trosglwyddo cwricwlwm addysgol lawn o ansawdd dda i blant gydag anghenion addysg arbennig (AAA). Mae ein hathrawon yn gymwysedig a phrofiadol i addysgu plant gydag anghenion ymddygiadol ac emosiynol sbesiffig.
Rydym wedi cyflawni statws AAA Gymeradwy oddi wrth ESTYN, yr ail ysgol annibynnol yn unig yng Nghymru i’w dderbyn.. Mae hyn yn adlewyrchu ein hymroddiad tuag at addysgu plant a phobl ifanc gydag ystod o anghenion amrywiaethol.
Mae gan bob cartref adeilad ysgol benodedig sy’n cynnig lefel uchel o adnoddau yn cynnwys:
Byrddau gwyn rhyngweithiol
Un cyfrifiadur i bob disgybl
Cyfarpar gwyddonol
Celfyddydau a thecstilau
Mae cymhareb athro i blentyn bob amser yn 2 neu 3 i 1, gyda gofalwyr sy’n gallu cynorthwyo fel CAA pan fo angen. Sicrha hyn fod bob disgybl yn derbyn y sylw a’r cymorth priodol. Mae ystod y gwobrau a gynigwn yn gynhwysfawr:
Cwricwlwm TGAU lawn
Cynllun Gwobrwyo ASDAN
Canolfan Gofrestredig Gwobr Dug Caeredin
Cofrestredig gan Weithrediad Sgiliau Sylfaenol
Cysylltiadau gyda Gyrfaoedd Cymru
Yn gofrestredig gan QCA, AQA ac OCR er mwyn darpar asesiad cyfredol