Select Welsh VersionSelect English VersionTel : 01437 764500 Facs : 01437 764550 Ebost: landskercare@aol.com

cartrefi preswyl

A play house

Portreada ein cartrefi popeth y dylai ofal breswyl fod. Cartrefi teuluol, cynnes a chroesawgar i blant, lle byddant yn cael gofal a gwerthfawrogiad. Gan mai pedwar plentyn ar y tro fydd ym mhob un o’n cartrefi, seiliwn strwythur a threfniant dyddiol ar y pethau ‘normal’ byddai unrhyw deulu yn gwneud - bwyta gyda'i gilydd, helpu gyda’r gwaith yn y ty, ysgol a hamdden. Sicrhawn drwy staffio ar lefel 1:1 fod bob plentyn yn cael amser i ganolbwyntio ar ei fywyd fel unigolyn yn ogystal â mwynhau'r bywyd a ddaw yn amgylchedd prysur, teuluol. .

A residential care home Cyn i blant ddod i fyw gyda ni, bydd rheolwr y cartref ac aelod o’r tîm yn ymweld â hwy. .Byddant yn derbyn llyfrynnau ac yn gweld lluniau o’r cartref, gerddi a’r tîm gofal. Gwahoddir hwy i ymweld â’r cartref ac yn aml byddant yn treulio noson gennym cyn dechrau’r lleoliad. Credwn fod hyn yn trosglwyddo’r neges ein bod eu heisiau hwy a’u gwerthfawrogi. Unwaith byddant yn byw gennym, maent yn cael eu hannog i gael ystafell eu hunain, i’w haddurno eu hunain ac i ddewis eitemau i’w ddodrefnu.

Gosodwn lawer o werth ar ymddygiad adlewyrchus a bydd y plant yn cael eu hannog i adlewyrchu ar lafar ac yn ysgrifenedig ar ddigwyddiadau eu diwrnod, am eu gweithredoedd a’u hymddygiad. Cynigwn amrywiaeth o ymyriadau therapiwtig er mwyn helpu’r plant i ddatblygu mewnwelediad i’w hymddygiad ac i ddeall y mecanweithiau amrywiol a phriodol sydd ar gael i’w helpu i ymdopi.

Ymyriadau Therapiwtig:

Rheoli Gwylltineb
Gwrthdaro
Pendantrwydd
Hanes Bywyd
Cyfathrebu
Sgiliau Rhyngbersonol
Sgiliau Ymdopi
Adnabyddiaeth Emosiynol
Diogelwch
Hunanymwybyddiaeths
Canlyniadau Positif
Bwlio

A residential care home Cyflawnwyd y gwaith hwn gan weithiwr allweddol - aelod o’r tîm gofal sy’n canolbwyntio yn benodol ar un plentyn yn y cartref. Digwydd hyn am ran o’r amser yn unig, gan fod mwyafrif o’r amser yn cael ei dreulio ar y pethau ‘normal’ bydd plant yn eu gwneud - sef chwaraeon, ymuno a chlybiau a gwneud ffrindiau, helpu o amgylch y ty, gwylio’r teledu a mynd i’r ysgol. Credwn mewn cynhwysiad cymdeithasol ac mae’r plant yn cael eu hannog i berchnogi eu cartref, i fod yn rhan weithgar o’r gymuned leol ac i wneud cyfraniad lle y medrent.

Mae ein cartrefi yn fannau positif i’w mynychu. Mae trosiad staffio hynod o isel a strwythur rheoli cadarn, sydd heb golli rheolwr o fewn bum mlynedd, yn gosod sail gadarn ar gyfer ofal tymor hir o ansawdd dda. Heb yr un chwaliad mewn lleoliad dros bum mlynedd, mae ein cartrefu yn mwynhau cyfnodau hir o sefydlogrwydd ac o ganlyniad, bydd y plant yn gwneud cynnydd tawel a chyson. Bydd amcanion ein cynlluniau gofal yn cael eu cyrraedd ac o ganlyniad bydd nifer fawr o blant yn ein gadael i fyw bywydau annibynnol.

Mae ein holl adroddiadau diweddaraf oddi wrth Arolygiaeth Safonau Gofal Cymru yn rhai perffaith ac rydym yn mwynhau perthynas weithgar, bositif ganddynt.